Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (115) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
Cynnig Am Ddadl Frys
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Simon Thomas: Y dylai’r Cynulliad ystyried ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
1 |
27 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.21
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adroddiadau Estyn ar Ferthyr Tudful a Sir Fynwy
Dechreuodd yr eitem am 14.43
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Datblygu cynlluniau ynni cymunedol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.19
5. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.00
6. Dadl: Cymorth y Llywodraeth i fusnesau newydd yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo:
‘Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.’
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu ‘Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod’ a rhoi ‘Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu’ yn ei le
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ennyn ysbryd entrepreneuraidd o oedran ifanc, ac yn credu y byddai sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol uwchradd yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc sgiliau busnes pwysig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
30 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull lleol o gynorthwyo busnesau newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r effaith gadarnhaol y mae rhyddhad ardrethi busnes yn ei chael ar hybu cychwyn busnesau newydd yng Nghymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi pellach ar gyfer busnesau bach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
7 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
7 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.
2. Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.
3. Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.
5. Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
6. Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.32
Daeth y cyfarfod i ben am 17:35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Chwefror 2013